Mae pob un o’n Cyfreithwyr Trawsgludo yn aelodau o Gynllun Ansawdd Trawsgludo Cymdeithas y Cyfreithwyr (CQS).
Mae’r CQS yn darparu safon ansawdd gydnabyddedig ar gyfer trawsgludo preswyl. Mae llawer o fenthycwyr morgais y DU yn ymddiried yn y CQS ac mae’n ofyniad gan rai cyn cael mynediad i’w Panel Cyfreithwyr. Cyn cyrraedd y safon rhaid gweithio i safonau rheoli ymarfer da a chadw at weithdrefnau effeithiol a darbodus drwy Brotocol y CQS.
Ail-achredir yn flynyddol. Wrth ymgeisio rhaid i bob trawsgludwr ymgymryd â hyfforddiant gorfodol a nodir gan yn Cynllun. I gwrdd â’r safonau a osodir, rhaid sicrhau hefyd ein bod yn gallu cwrdd ag arferion a gweithdrefnau sydd wedi’u gwella.
Ymunodd Llewellyn-Jones â’r Cynllun Ansawdd Trawsgludo yn Ionawr 2013 ac rydym yn ymroi i gynnal yr achrediad.
http://www.lawsociety.org.uk/for-the-public/using-a-solicitor/quality-marks/conveyancing/
Bu Mrs Colette Fletcher yn aelod o’r Cynllun Cyfraith Teulu ers 2004 ac yn ddiweddar fe’i hail-achredwyd hyd at 2020.
Mae Cynllun Uwch Cyfraith Teulu Cymdeithas y Cyfreithwyr yn ymwneud â meysydd arbenigol o waith cyfraith teulu. Rhai i’r broses ymgeisio gynhwysfawr foddhau Cymdeithas y Cyfreithwyr gyda sawl astudiaeth achos bod gan yr ymgeisydd lefel uchel o wybodaeth, sgiliau a phrofiad ymarferol mewn dau faes cyfraith teulu neu fwy.
Cynllun Uwch Cyfraith Teulu Cymdeithas y Cyfreithwyr
http://www.lawsociety.org.uk/for-the-public/using-a-solicitor/quality-marks/family/
Mae ein cyfreithwyr teulu, ill dwy’n aelodau o Resolution, yn ymroi i ddatrys anghydfod teuluol mewn modd adeiladol. Rydym yn dilyn Cod Ymarfer sy’n hyrwyddo dull anwrthdrawol o drafod problemau teuluol, gan annog datrysiadau sy’n ystyriol o anghenion y teulu cyfan ac yn benodol lles pennaf y plant.
Dan y broses gydweithredol, mae pob person yn penodi eu cyfreithiwr eu hunain sydd wedi eu hyfforddi i weithio’n gydweithredol, a byddwch chi a’ch cyfreithwyr priodol yn cyfarfod i ddatrys materion wyneb yn wyneb. Bydd gan y ddau ohonoch gyfreithiwr ger eich ochr gydol y broses felly bydd cymorth a chyngor cyfreithiol ar gael gydol yr amser.
Rydych chi a’r cyfreithwyr yn arwyddo cytundeb sy’n eich ymrwymo i geisio datrys y materion heb fynd i’r llys ac mae’n eu hatal rhag eich cynrychioli yn y llys pe digwydd i’r broses gydweithredol fethu. Mae hyn yn golygu bod pawb yn ymroi’n gyfan gwbl i ganfod y datrysiadau gorau drwy gytundeb, yn hytrach na thrwy achosion llys.
Rhaid i gwmnïau sy’n cynnig Cymorth Cyfreithiol nail ai berthyn i’r SQM neu Lexcel. (Safon Rheoli Ymarfer Cymdeithas y Cyfreithwyr). Mae’r SQM yn system o reoli ansawdd ar gyfer darparwyr cymorth cyfreithiol sydd, drwy archwiliad, wedi dangos rheolaeth dda, lefelau da o ofal cleient a systemau gweithio effeithiol.
Yn dilyn archwiliad yn 2024 dyfarnwyd y SQM i’n cwmni hyd at 2027.