Awdurdodiad
Mae’r cwmni wedi ei awdurdodi a’i reoleiddio gan Yr Awdurdod Rheoleiddio Cyfreithwyr (SRA) ac yn glynu at God Ymddygiad Cyfreithwyr. Mae Llawlyfr yr SRA yn amlinellu ei ofynion rheoleiddio.
Swyddogion Cydymffurfiaeth
Yn unol â gofynion yr SRA, gofynnodd y cwmni am gael cymeradwyo’r Swyddogion Cydymffurfiaeth enwebedig canlynol:
Mrs Colette Andrea Fletcher – Swyddog Cydymffurfiaeth ar gyfer Cyllid a Gweinyddu (COFA)
Mrs Colette Andrea Fletcher – Swyddog Cydymffurfiaeth ar gyfer Ymarfer Cyfreithiol (COLP)
Mae’r COLP a’r COFA yn gyfrifol am sicrhau bod prosesau ar waith i alluogi’r cwmni, ei reolwyr a’i weithwyr, ac unrhyw un sydd â diddordeb yn y cwmni i gydymffurfio â Llawlyfr yr SRA <http://www.sra.org.uk/handbook>. Maent yn gyfrifol am systemau a rheolaethau’r cwmni, ac yn ysgwyddo cyfrifoldeb dros reoli risg wrth i’r cwmni ddarparu ei wasanaeth cyfreithiol
Rheoliadau Darparu Gwasanaeth 2009
Mae gennym yswiriant indemniad proffesiynol yn unol â’n rhwymedigaethau rheolaethol ac yn cydymffurfio â’r rheoliad uchod drwy arddangos manylion ein Hyswiriant Indemniad Proffesiynol ym mhob un o’n swyddfeydd.
Cydraddoldeb ac Amrywiaeth
Data Amrywiaeth Gweithlu
Mae’r cwmni wedi cydymffurfio â gofynion yr SRA i gynnal ac adrodd ar Ddata Amrywiaeth yn flynyddol.
Cyhoeddi data amrywiaeth gweithlu
Yn unol â chanllawiau’r SRA: “SRA/Canllawiau Moeseg/Fframwaith Cyhoeddi” ni fydd y practis yn cyhoeddi’r data.