Derbyniodd Nesta ei haddysg yn Ysgol Maes Garmon, Yr Wyddgrug, ac fe raddiodd o Brifysgol Cymru, Aberystwyth. Hyfforddodd gyda Llewellyn-Jones & Co yn Yr Wyddgrug cyn cymhwyso yn 1982 ac yn dilyn hynny, treuliodd gyfnod o bum mlynedd yn gweithio fel cyfreithiwr yng nghanolbarth Cymru cyn dychwelyd at Llewellyn Jones & Co yn 1987.
Mae’n arbenigo mewn eiddo Amaethyddol a Phreswyl, achosion Gwarcheidwaeth Gyhoeddus, Ewyllysiau, Profiant a materion treth. Tros y blynyddoedd diwethaf mae wedi gwneud mwy o waith ym maes Tai Cymdeithasol, gyda’r ddarpariaeth gynyddol o dai cost isel yn y gymuned. Mae Nesta yn rhugl ei Chymraeg.
Mae Nesta yn briod (â Geoff) ac mae ganddi bedwar o blant. Mae’n Gynghorydd Cymuned ac yn Flaenor yng Nghapel M C Berthen, Licswm. Mae hefyd yn aelod o sawl sefydliad gwirfoddol yn y gymuned leol. Ei diddordebau, pan fo amser yn caniatáu, yw cerdded bryniau a gweithgareddau awyr agored, cerddoriaeth a garddio.
Cyswllt Cyflym
Cwblhewch y ffurflen isod ac fe gysylltwn â chi cyn gynted ag y bo modd.