Cymhwysodd Delyth yn gyfreithiwr yn 1981 wedi dilyn ei herthyglau gyda Chyngor Clwyd gynt.
Wedi gweithio mewn practis preifat yn Nyffryn Conwy, ymunodd Delyth â swyddfa Rhuthun Llewellyn-Jones & Co yn 1989 a’i gwneud yn bartner yn 1991.
Mewn tros bum mlynedd ar hugain o weithio fel cyfreithiwr mewn practis sydd ar y cyfan yn un gwledig, mae Delyth wedi ennill ystod eang o wybodaeth ar bob mater a phroblem sy’n effeithio’i chymuned leol, gan ddelio gyda materion Cleient Preifat gan gynnwys trawsgludo preswyl, trafodiadau tir ac eiddo o bob math gyda phwyslais arbennig ar gaffael a throsglwyddo ffermydd teulu a busnesau fferm, Ewyllysiau, Profiant a Gweinyddu Ystadau.
Mae gan Delyth brofiad eang o ddelio gyda chleientiaid hŷn ac mae’n aelod o’r grŵp arbenigol Solicitors for the Elderly. Gall Delyth gynghori ar bob agwedd o baratoi Ewyllys, gan gynnwys cyngor ar gynllunio ar gyfer treth ble mae hynny’n briodol.
Mae Delyth yn gyn-aelod o Bwyllgor Cyfraith a Pholisi’r Eglwys Fethodistaidd ac yn aelod o Gôr Rhuthun a’r Cylch (alto!) ac yn hoff iawn o gerddoriaeth. Bu’n chwaraewr hoci brwd yn ei hieuenctid, ac erbyn hyn golff sy’n mynd â’i bryd pan fo amser yn caniatáu. Mae Delyth wrth ei bodd yn cerdded ei chi a chymdeithasu gyda ffrindiau a theulu.
Cyswllt Cyflym
Cwblhewch y ffurflen isod ac fe gysylltwn â chi cyn gynted ag y bo modd.