Wedi ymuno yn wreiddiol â Llewellyn-Jones (Llewellyn Jones ac Armon Ellis gynt) yn mis Chwefror 1989, mae Miss Delyth Geraint Williams wedi penderfynu ymddeol o’r cwmni a rhoi’r gorau i’w rôl fel Cyfarwyddwr ar yr 31ain o Hydref. Gydag emosiynau cymysg, dathlwn y 36 mlynedd o wasanaeth y mae Delyth wedi ei roi i Llewellyn-Jones. Mae Delyth wedi gweld llawer o newidiadau dros y blynyddoedd, a thrwy gydol y cyfnod hwn mae hi wedi datblygu ein swyddfa yn Rhuthun yn llwyddiannus, gydag ymrwymiad diflino i gwrdd ag anghenion y gymuned leol a lle mae hi wedi meithrin a chynnal ein cleientiaid helaeth.
Bydd ein Miss Nerys Wyn McKee yn ymuno a thîm Rhuthun i arwain y swyddfa, lle bydd yn gweithion’n barhaol o’r 1af o Dachwedd 2024. Bydd trosglwyddiad esmwyth, a bydd ein tîm yn Rhuthun yn parhau i ddarparu ein gwasanaeth safonol a fydd wedi’i deilwra i ddiwallu angenion ein cleientiaid, a chynnal ein enw da yn lleol a’n sylfaen gadarn o gleientiaid ffyddlon yn Rhuthun.
Mae’n bleser gennym i gyhoeddi fod Lauren Thomas wedi cael ei dyrchafu o’i rôl fel i Paragyfreithiwr i Gyfreithiwr dan Hyfforddiant o heddiw, 15fed o Fai. Ymunodd Lauren â ni ym mis Rhagfyr 2023 a hoffwn ei llongyfarch ar ei dyrchafiad sy’n destament i’w gwaith caled ers ymuno â ni. Mae Lauren wedi bod yn gweithio’n hynod o galed ac wedi dangos brwdfrydedd ac ymrwymiad arbennig.
Bydd Lauren yn ymgymryd â gwaith yn yr adrannau Teulu, Trawsgludo Preswyl a Chleientiaid Preifat yn ystod ei chyfnod hyfforddi ac mae hi’n siaradwr Cymraeg rhugl.
Mae strategaeth y cwmni wedi ei seilio ar ddatblygu talentau ifanc a’u hannog i ddatblygu. Rydym yn falch i gydnabod a dathlu llwyddiannau aelodau ein tîm.
Rydym yn gyffrous iawn i weld Lauren yn datblygu â’i hyfforddiant a’i gyrfa yma yn Llewellyn-Jones.