GRADDFA FFIOEDD:
PRYNIANT PRESWYL RHYDD-DDALIADOL
Mae ei ffioedd yn dechrau ar £775.00 ynghyd â TAW. Yn gyffredinol, ein ffioedd arferol ar gyfer pryniant preswyl rhydd-ddaliadol heb unrhyw gymhlethdodau annisgwyl yw £800.00 ynghyd â TAW.
Codir y ffioedd canlynol yn ogystal â’r uchod lle bo hynny’n briodol:-
Yn ychwanegol at y ffi sylfaenol, bydd rhaid talu alldaliadau. Alldaliadau yw costau sy’n ymwneud â’ch mater sydd yn daladwy i drydydd partïon, er enghraifft Cofrestrfa Tir Ei Mawrhydi am ffioedd chwiliadau a CThEM neu Awdurdod Refeniw Cymru ar gyfer y dreth stamp. Byddwn yn ymdrin â thalu’r alldaliadau ar eich rhan.
ALLDALIADAU sydd yn daladwy wrth brynu:
Mae cost Chwiliadau Swyddogol yr Awdurdod Lleol yn amrywio rhwng pob ardal Awdurdod Lleol. Fel canllaw, ar hyn o bryd cost pecynnau chiliadau ar gyfer yr ardaloedd sydd agosaf at ein swyddfeydd (CH7 ac LL15) yw £317.00 a £321.00 yn ôl eu trefn. Bydd ein dyfynbris pris penodol yn manylu ar y gost.
Ffioedd chwiliadau eraill sydd yn daladwy:
Chwiliadau Pridiant Tir/Chwiliad Methdaliad | £3.20 yr enw (gan gynnwys unrhyw TAW) | |
Chwiliad Swyddogol | £3.20 per name (inclusive of any VAT) | |
Ffioedd Cofrestrfa Tir (Cofrestru eiddo) | Bydd ein dyfynbris pris penodol yn manylu ar y gost ond fe’ch cyfeiriwn at y wybodaeth ar y wefan ganlynol:
https://www.gov.uk/guidance/hm-land-registry-registration-services-fees |
|
Ffi Trosglwyddiad Banc (os yn berthnasol) e.e. er mwyn trosglwyddo arian y pryniant neu i dalu balans sydd yn ddyledus yn uniongyrchol i’ch banc ar ôl gwerthu eiddo. | £40. Ac £8. TAW | |
Mae’n bosib hefyd y bydd raid ichi dalu ffi dogfennaeth morgais (y mae rhai benthycwyr yn ei chodi. Cewch wybod os yw’r ffi yma’n daladwy) | Ar hyn o bryd mae sawl benthyciwr yn codi £15 a TAW O £3 am ddarparu dogfennau morgais. Unwaith eto, byddwn yn cadarnhau’r ffi yn ein dyfynbris penodol. | |
Er mwyn boddhau gofynion Atal Gwyngalchu Arian (AML), lle bo hynny’n briodol, cynhelir chwiliad AML. | £5 .60 yr enw. Dim TAW | |
Ffi cyflwyno Treth Dir y Dreth Stamp (SDLT) (CYFLWYNO Ffurflen Treth Dir y Dreth Stamp) | £6.00 gan gynnwys TAW. | |
Ffi cyflwyno AP1 (i newid Cofrestr Teitlau) | £6.00 gan gynnwys TAW. | |
Mae’n bosib y bydd chwiliadau eraill yn angenrheidiol unwaith i’r holl wybodaeth am yr eiddo ddod i’r amlwg. Dim ond pa fo’r wybodaeth hon ar gael y gallwn ni roi pris llawn ar gyfer y chwiliadau. Fe wnawn ni yna ddarparu dyfynbris ysgrifenedig llawn ichi yn manylu’r holl gostau, yr alldaliadau a’r TAW. Gallai’r chwiliadau ychwanegol gynnwys:
Y DRETH STAMP neu’r DRETH TRAFODIADAU TIR (Cymru)
Mae’r swm sy’n daladwy yn ddibynnol ar bris prynu eich eiddo. Mae’r ddolen isod yn mynd â chi i wefan CThEM ar gyfer eiddo yn Lloegr neu Awdurdod Cyllid Cymru ar gyfer eiddo yng Nghymru. Byddwn yn cadarnhau’r dreth sy’n daladwy yn ein dyfynbris ysgrifenedig pan fo gennym yr holl wybodaeth. Mae’r swm y byddwch yn ei dalu yn ddibynnol ar sawl ffactor, gan gynnwys pa un ai:
Yn yr un modd, mae yna ddigwyddiadau a all wneud eiddo yn esempt, neu olygu gostyngiad yn y swm sy’n daladwy, e.e.
Gwefan CThEM: https://www.tax.service.gov.uk/calculate-stamp-duty-land-tax/#/intro
Gwefan Awdurdod Cyllid Cymru: https://beta.gov.wales/land-transaction-tax-calculator
CWMPAS Y GWAITH
Mae ein ffioedd yn cwmpasu’r holl waith sy’n angenrheidiol gan gynnwys cwblhau, delio gyda chofrestru gyda’r Gofrestrfa Dir a delio gyda thaliadau ar gyfer naill ai’r Dreth Stamp neu’r Dreth Trafodiadau Tir (yn ddibynnol ar a yw’r eiddo yng Nghymru neu yn Lloegr). Noder bod y ffioedd a nodir yn cymryd yn ganiataol:
Pan fo unrhyw gymhlethdod nas ragwelwyd yn digwydd neu pan fo’r modd y gofynnir inni weithredu yn golygu gwaith ychwanegol byddwn yn eich hysbysu a darparu gwybodaeth ddiwygiedig am y costau, yn ychwanegol i’r hyn a nodwyd eisoes yn ein llythyr Telerau Ymrwymiad.
AMCANGYFRIF AMSER AR GYFER GWAITH
Mae sawl ffactor yn pennu’r amser mae’n cymryd i’ch pryniant gwblhau. Yr amser cyfartalog ar gyfer y broses yw rhwng 6 ac 8 wythnos. Dyma rai o’r digwyddiadau a all effeithio’r amserlen:
Fe wnawn ni, wrth gwrs, eich diweddaru fel bo angen.
GWAHANOL GAMAU’R BROSES
Mae’r canlynol yn rhestr o gamau allweddol y gwaith y byddwn yn ei wneud ar eich rhan. Gall yr union gamau amrywio yn ôl yr amgylchiadau.
Manylion llawn ynghylch cymwysterau a phroffil personol ein cyfreithwyr trawsgludo:
Swyddfa Yr Wyddgrug
Dion ap Geraint Williams | |
Nerys Wyn McKee | |
Nesta Myfanwy Davies | |
Chloe Roberts | |
Beti-Wyn Evans |
Swyddfa Rhuthun
Neu defnyddiwch ein ffurflen gyswllt
Or use our contact form
GRADDFA FFIOEDD:
TRAWSGLUDO PRESWYL RHYDD-DDALIADOL – GWERTHU
Mae ei ffioedd yn dechrau ar £725.00 ynghyd â TAW. Yn gyffredinol, ein ffioedd arferol ar gyfer gwerthiant preswyl rhydd-ddaliadol heb unrhyw gymhlethdodau annisgwyl yw £750.00 ynghyd â TAW.
Yn ychwanegol at ein ffioedd sylfaenol, bydd rhaid talu alldaliadau. Alldaliadau yw’r costau sy’n ymwneud â’ch mater sydd yn daladwy i drydydd partïon, er enghraifft Y Gofrestrfa Dir am gopi o’r dogfennau teitl. Byddwn yn ymdrin â thalu’r alldaliadau ar eich rhan.
FFIOEDD YCHWANEGOL
ALLDALIADAU
Cofrestrfa Tir Ei Mawrhydi – Ffioedd copi Swyddfa | £3.90 (gan gynnwys unrhyw TAW) |
Ffi trosglwyddo arian yn electronig (os yn berthnasol) | £40 ac £8. TAW |
Er mwyn boddhau gofynion Atal Gwyngalchu Arian (AML), lle bo hynny’n briodol, cynhelir chwiliad AML | £5.60 yr enw dim TAW |
CWMPAS Y GWAITH
Mae ein ffioedd yn cynnwys yr holl waith sydd ei angen gan gynnwys gwaith i gwblhau ac wedi’r cwblhau, megis talu unrhyw forgais/forgeisi a/neu pridiannau eraill ar yr eiddo, danfon dogfennau teitl ymlaen at gyfreithwyr y perchennog newydd, talu ffioedd unrhyw asiantaeth gwerth tai. Noder, mae’r ffioedd a nodi yn cymryd yn ganiataol mai trafodiad safonol yw hwn, ac na fydd unrhyw anawsterau nas rhagwelwyd yn codi, megis diffyg mewn teitl a allai olygu gwneud gwaith i’w gywiro cyn cwblhau neu baratoi dogfennau ychwanegol, yn ychwanegol i’r prif drafodiad.
Pan fo anhawster nas rhagwelwyd yn codi neu ble mae’r modd y gofynnir inni fwrw ymlaen yn golygu gwaith ychwanegol, byddwn yn eich hysbysu ac yn darparu gwybodaeth costau diwygiedig ar ffurf ysgrifenedig.
AMCANGYFRIF AMSER AR GYFER GWAITH
Mae sawl ffactor yn pennu’r amser y bydd yn ei chymryd i’ch gwerthiant gwblhau: mae’r broses gyfartalog yn cymryd rhwng 6 ac 8 wythnos. Ymhlith rhesymau eraill, gall y ffactorau canlynol effeithio ar yr amserlen:
Byddwn wrth reswm yn eich diweddaru drwy gydol y broses.
CAMAU’R BROSES
Mae’r canlynol yn rhestr o gamau allweddol gwaith y byddwn yn ei wneud ar eich rhan. Gall yr union gamau amrywio yn ôl yr amgylchiadau.
Manylion llawn am gymwysterau a phroffil personol ein cyfreithwyr trawsgludo:
Swyddfa Yr Wyddgrug
Dion ap Geraint Williams | |
Nerys Wyn McKee | |
Nesta Myfanwy Davies | |
Chloe Roberts | |
Beti-Wyn Evans |
Swyddfa Rhuthun
Neu defnyddiwch ein ffurflen gyswllt
Or use our contact form
GRADDFA FFIOEDD:
PRYNIANT PRESWYL LESDDALIADOL
Mae ei ffioedd yn dechrau ar £1,000.00 ynghyd â TAW. Yn gyffredinol, ein ffioedd arferol ar gyfer pryniant preswyl lesddaliadol heb unrhyw gymhlethdodau annisgwyl yw £1050.00 ynghyd â TAW.
Codir y ffioedd canlynol yn ogystal â’r uchod lle bo hynny’n briodol:-
Yn ychwanegol at y ffi sylfaenol, bydd rhaid talu alldaliadau. Alldaliadau yw costau sy’n ymwneud â’ch mater sydd yn daladwy i drydydd partïon, er enghraifft ffioedd chwiliadau. Byddwn yn ymdrin â thalu’r alldaliadau ar eich rhan. Mae alldaliadau wedi eu rhestru’n unigol isod. Nid yw’r rhestr hon yn hollgynhwysfawr ac mae’n bosib y bydd alldaliadau eraill i’w talu yn ddibynnol ar delerau’r brydles. Byddwn yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf ichi am y ffioedd penodol unwaith inni dderbyn ac adolygu’r brydles gan gyfreithiwr y gwerthwr/gwerthwyr.
ALLDALIADAU SY’N DALADWY
*Mae cost Chwiliadau Swyddogol yr Awdurdod Lleol yn amrywio rhwng pob ardal Awdurdod. Fel canllaw, ar hyn o bryd mae’r costau ar gyfer pecynnau chwiliadau ar gyfer yr ardaloedd sydd agosaf at ein swyddfeydd (CH7 ac LlL15) oddeutu £317.00 a £321.00 yn ôl eu trefn. Bydd ein dyfynbris pris penodol yn manylu ar y gost.
Ffioedd chwiliadau safonol eraill sy’n daladwy:
Chwiliad Pridiannau Tir/Chwiliad Methdaliad | £3.20 yr enw (gan gynnwys unrhyw TAW) |
Chwiliad Swyddogol | £3.20 yr enw (gan gynnwys unrhyw TAW) |
Ffioedd Cofrestrfa Tir (Cofrestru eiddo) | Bydd ein dyfynbris pris penodol yn manylu ar y gost ond fe’ch cyfeiriwn at y wybodaeth ar y wefan ganlynol:
https://www.gov.uk/guidance/hm-land-registry-registration-services-fees |
Ffi Trosglwyddiad Banc (os yn berthnasol) e.e. i drosglwyddo’r arian pryniant neu dalu’r balans yn dilyn gwerthiant yn uniongyrchol i’ch banc. | £40. Ac £8 TAW |
Mae’n bosib hefyd y bydd raid ichi dalu ffi dogfennaeth morgais (y mae rhai benthycwyr yn ei chodi. Fe’ch hysbysir os yw’r ffi yma’n daladwy) | Ar hyn o bryd mae sawl benthyciwr yn codi £15 a TAW o £3 am ddarparu dogfennaeth morgais. Unwaith eto, byddwn yn cadarnhau’r ffi yn ein dyfynbris penodol. |
Er mwyn boddhau gofynion Atal Gwyngalchu Arian (AML), lle bo’n briodol, cynhelir chwiliad AML. | £5.60 yr enw, dim TAW |
Ffi cyflwyno Ffurflen Treth Dir y Dreth Stamp (SDLT) | £6.00 (gan gynnwys unrhyw TAW) |
Ffi cyflwyno AP1 (i newid Cofrestr Teitl) | £6.00 (gan gynnwys unrhyw TAW) |
Mae’n bosib y bydd chwiliadau eraill yn angenrheidiol pan fo’r wybodaeth lawn ar gael am yr eiddo. Dim ond pan fo’r wybodaeth hon ar gael y gallwn ni ddarparu’r pris llawn ar gyfer y chwiliadau. Byddwn yna’n darparu dyfynbris ysgrifenedig llawn ar eich cyfer yn manylu ar yr holl gostau, yr alldaliadau a’r TAW.
Mae yna gostau ychwanegol y mae Landlord a/neu Gwmni Rheoli yn eu codi, megis:
Mae’r ffioedd hyn yn amrywio o eiddo i eiddo. Fe allwn ni roi ffigwr pendant ichi unwaith inni glywed gan y Landlord/Cwmni Rheoli.
Dylech hefyd fod yn ymwybodol y bydd rhent tir a thâl gwasanaeth yn debygol o fod yn berthnasol drwy gydol eich perchnogaeth o’r eiddo. Byddwn yn cadarnhau’r rhent tir a’r tâl gwasanaeth a ragwelir cyn gynted ag y daw’r wybodaeth yma i law.
Y DRETH STAMP neu’r DRETH TRAFODIADAU TIR (CYMRU)
Mae’r swm sy’n daladwy yn ddibynnol ar bris prynu’r eiddo. Mae’r dolenni isod yn mynd â chi naill ai i wefan CThEM ar gyfer eiddo yn Lloegr neu Awdurdod Refeniw Cymru os yw’r eiddo yng Nghymru. Byddwn yn cadarnhau’r dreth sy’n daladwy yn ein dyfynbris ysgrifenedig pan fo’r holl wybodaeth yn hysbys.
Gwefan CThEM: https://www.tax.service.gov.uk/calculate-stamp-duty-land-tax/#/intro
Gwefan Awdurdod Refeniw Cymru: https://beta.gov.wales/land-transaction-tax-calculator
CWMPAS Y GWAITH
Mae’r canlynol yn rhestr o gamau allweddol gwaith y byddwn yn ei wneud ar eich rhan. Gall union gamau prynu eiddo preswyl lesddaliadol amrywio yn ôl yr amgylchiadau.
Noder, mae’r ffioedd a nodir yn cymryd yn ganiataol mai trafodiad safonol yw hwn ac na fydd anawsterau nas ragwelwyd yn codi, gan gynnwys, ond heb eu cyfyngu i:
Pan fo anhawster nas ragwelwyd yn codi neu ble mae’r modd y gofynnir inni fwrw ymlaen yn golygu gwaith ychwanegol byddwn yn eich hysbysu ac yn darparu costau diwygiedig ar ffurf ysgrifenedig.
AMCANGYFRIF AMSER AR GYFER GWAITH
Mae sawl ffactor yn pennu’r amser mae’n cymryd i’ch pryniant gwblhau. Yr amser cyfartalog ar gyfer y broses yw rhwng 6 ac 8 wythnos. Dyma rai o’r digwyddiadau a all effeithio’r amserlen:
Manylion llawn ynghylch cymwysterau a phroffil personol ein cyfreithwyr trawsgludo:
Swyddfa Yr Wyddgrug
Dion ap Geraint Williams | |
Nerys Wyn McKee | |
Nesta Myfanwy Davies | |
Chloe Roberts | |
Beti-Wyn Evans |
Swyddfa Rhuthun
Delyth Geraint Williams | |
Ffion Medi Jones |
Neu defnyddiwch ein ffurflen gyswllt
Or use our contact form
GRADDFA FFIOEDD:
GWERTHIANT PRESWYL LESDDALIADOL
Mae ei ffioedd yn dechrau ar £975.00 ynghyd â TAW. Yn gyffredinol, ein ffioedd arferol ar gyfer gwerthiant preswyl lesddaliadol heb unrhyw gymhlethdodau annisgwyl yw £950.00 ynghyd â TAW.
Yn ychwanegol at y ffi sylfaenol, bydd rhaid talu alldaliadau. Alldaliadau yw costau sy’n ymwneud â’ch mater sy’n daladwy i drydydd partïon, er enghraifft Cofrestrfa Tir Ei Mawrhydi am gopi o’r dogfennau teitl neu ffioedd sy’n daladwy i Gwmni Rheoli. Byddwn yn ymdrin â thalu’r alldaliadau ar eich rhan. Mae’r alldaliadau a ragwelir wedi eu rhestru’n unigol isod. Nid yw’r rhestr hon yn hollgynhwysfawr ac mae’n bosib y bydd alldaliadau eraill i’w talu yn ddibynnol ar delerau’r les. Byddwn yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf ichi am y ffioedd penodol unwaith inni dderbyn ac adolygu’r les.
ALLDALIADAU
Cofrestrfa Tir Ei Mawrhydi – Ffioedd copi swyddfa | £3.90 y ddogfen (gan gynnwys unrhyw TAW) |
Ffi trosglwyddo arian yn electronig (os yn berthnasol) | £40 ac £8. TAW |
Er mwyn boddhau gofynion Atal Gwyngalchu Arian (AML), lle bo’n briodol, cynhelir chwiliad AML | £5.60 yr enw dim TAW |
Ffioedd sy’n daladwy i Landlord/Cwmni Rheoli i gydymffurfio â’r Les | Fe’ch hysbysir unwaith inni dderbyn ac adolygu’r les. |
CWMPAS Y GWAITH
Mae ein ffioedd yn cynnwys yr holl waith sydd ei angen gan gynnwys gwaith i gwblhau ac wedi cwblhau megis talu unrhyw forgais/forgeisi a/neu bridiannau eraill ar yr eiddo, danfon dogfennau teitl ymlaen at gyfreithwyr y perchennog newydd, talu ffioedd unrhyw asiantaeth gwerthu tai. Noder, mae’r ffioedd a nodir yn cymryd yn ganiataol mai trafodiad safonol yw hwn ac na fydd anawsterau nas ragwelwyd yn codi, megis diffyg mewn teitl sydd angen ei gywiro cyn cwblhau neu baratoi dogfennau, yn ychwanegol i’r prif drafodiad.
Pan fo anawsterau nas ragwelwyd yn codi neu ble mae’r modd y gofynnir inni fwrw ymlaen yn golygu gwaith ychwanegol byddwn yn eich hysbysu ac yn darparu costau diwygiedig ar ffurf ysgrifenedig.
AMCANGYFRIF AMSER AR GYFER GWAITH
Mae sawl ffactor yn pennu’r amser mae’n cymryd i’ch gwerthiant gwblhau. Yr amser cyfartalog ar gyfer y broses yw rhwng 6 ac 8 wythnos. Gall y ffactorau canlynol gael effaith ar yr amserlen:
Fe wnawn ni, wrth gwrs, eich diweddaru fel bo angen.
CAMAU’R BROSES
Mae’r canlynol yn rhestr o gamau allweddol gwaith y byddwn yn ei wneud ar eich rhan. Gall union gamau gwerthiant eiddo preswyl lesddaliadol amrywio yn ôl yr amgylchiadau.
Manylion llawn ynghylch cymwysterau a phroffil personol ein cyfreithwyr trawsgludo:
Swyddfa Yr Wyddgrug
Dion ap Geraint Williams | |
Nerys Wyn McKee | |
Nesta Myfanwy Davies | |
Chloe Roberts | |
Beti-Wyn Evans |
Swyddfa Rhuthun
Delyth Geraint Williams | |
Ffion Medi Jones |
Neu defnyddiwch ein ffurflen gyswllt
Or use our contact form
GRADDFA FFIOEDD
Profiant (Diwrthwynebiad)
Dan Reolau Tryloywder yr Awdurdod Rheoleiddio Cyfreithwyr (SRA) mae’n ofynnol inni nodi neu roi syniad o ystod gyfartalog costau/nodi’r alldaliadau sy’n daladwy (h.y. ffioedd sy’n daladwy i eraill).
Mae’n arbennig o anodd rhoi syniad cywir o’r costau ar gyfer gwaith Profiant diwrthwynebiad hyd nes y byddwn yn cael gwybodaeth benodol, megis, a oes ewyllys, natur a lleoliad yr eiddo yr oedd yr ymadawedig yn berchen arno, nifer y buddiolwyr, nifer y cyfrifon banc neu gyfranddaliadau a ddelir, asedau a ddelir mewn ymddiriedolaeth ac unrhyw rwymedigaethau sy’n ddyledus i’r ystad.
Isod rydym yn nodi’r wybodaeth gyffredinol ganlynol, ac fe’ch gwahoddwn i gysylltu â ni naill ai i drefnu apwyntiad neu, os oes gennych chi wybodaeth ddigonol ar y pwynt hwn, i gysylltu â ni i gael dyfynbris ysgrifenedig o’n ffioedd.
Mae ein cyfraddau ffioedd ar gyfer trafod ystad yn amrywio rhwng £225 ac £250 yr awr yn ddibynnol ar brofiad yr enillwr ffi.
Mae pob gwaith yn cael ei oruchwylio gan uwch-gyfreithiwr.
Manylion llawn ynghylch cymwysterau a phroffil personol ein cyfreithwyr profiant:
Swyddfa Yr Wyddgrug
Dion ap Geraint Williams | |
Nesta Myfanwy Davies | |
Nerys Wyn McKee | |
Swyddfa Rhuthun |
Delyth Geraint Williams | |
Mae’r camau allweddol canlynol y gwaith a wneir i weinyddu a dosbarthu ystâd yn cynnwys:
ALLDALIADAU/ALLDALIADAU POTENSIAL SY’N DALADWY
Alldaliadau yw costau sy’n berthnasol i’ch mater sydd yn daladwy i drydydd partïon, megis ffioedd llys. Rydym yn delio â thalu alldaliadau ar eich rhan.
https://www.gov.uk/wills-probate-inheritance/applying-for-a-grant-of-representation
Byddai profiant cyffredin yn cynnwys yr elfennau canlynol:
Yn nodweddiadol, mae’n cymryd 6 i 12 mis i gael Grant Profiant a gweinyddu’r ystâd.
Ar gyfartaledd mae’n cymryd hyd at 10 awr i gwblhau’r gwaith uchod. Os yw’r mater yn mynd yn fwy cymhleth neu os daw cais inni ymgymryd â gwaith pellach byddem yn diweddaru’r wybodaeth sydd wedi ei chynnwys yn ein llythyr Telerau ac Amodau.
Dolenni defnyddiol:
https://www.legalchoices.org.uk/?s=Probate
– gwefan gwybodaeth a gymeradwyir gan yr SRA
https://www.gov.uk/guidance/hmrc-tools-and-calculators#inheritance-tax
Neu defnyddiwch ein ffurflen gyswllt
Or use our contact form
AILFORGEISIO – Ffioedd Sylfaenol
GRADDFA FFIOEDD:
Ailforgeisio: £600.00 ynghyd â TAW
Trosglwyddiad Ecwiti: £600.00 ynghyd â TAW
Trosglwyddiad Ecwiti ac Ailforgeisio £675.00 ynghyd â TAW
COSTAU YCHWANEGOL I’W TALU
Yn ychwanegol at y ffi sylfaenol bydd rhaid talu alldaliadau. Alldaliadau yw costau sy’n ymwneud â’ch mater sydd yn daladwy i drydydd partïon, megis Cofrestrfa Tir Ei Mawrhydi am ffioedd chwiliadau. Byddwn yn ymdrin â thalu’r alldaliadau ar eich rhan.
ALLDALIADAU:
Ffioedd chwiliadau sy’n daladwy fel arfer:
Chwiliadau Pridiannau Tir/Chwiliad Methdaliad | £3.20 yr enw (gan gynnwys unrhyw TAW) |
Chwiliad Methdaliad | £3.20 yr enw (gan gynnwys unrhyw TAW |
Ffioedd Cofrestrfa Tir (Cofrestru eiddo) |
Bydd ein dyfynbris pris penodol yn manylu ar y gost, ond gweler y wybodaeth:
https://www.gov.uk/guidance/hm-land-registry-registration-services-fees |
Ffi Indemniad Chwiliadau | £35.00 (ar gyfartaledd – yn ddibynnol ar y gwerth) |
Ffi Trosglwyddiad Banc (os yn berthnasol) e.e. er mwyn trosglwyddo arian y pryniant neu i dalu balans sydd yn ddyledus yn uniongyrchol i’ch banc ar ôl gwerthu eiddo. | £40. ac £8. TAW |
Mae’n bosib hefyd y bydd raid ichi dalu ffi dogfennaeth morgais (y mae rhai benthycwyr yn ei chodi. Cewch wybod os yw’r ffi yma’n daladwy)
|
Ar hyn o bryd mae sawl benthyciwr yn codi £25 a TAW O £5 am ddarparu dogfennau morgais. Unwaith eto, byddwn yn cadarnhau’r ffi yn ein dyfynbris pris penodol |
Er mwyn boddhau gofynion Atal Gwyngalchu Arian (AML), lle bo hynny’n briodol, cynhelir chwiliad AML | £5.60 yr enw dim TAW |
Ffi Cyflwyno (CYFLWYNO Ffurflen Treth Dir y Dreth Stamp) | £6.00 (gan gynnwys unrhyw TAW) |
Ffi cyflwyno AP1 (i newid y Gofrestr Teitlau) | £6.00 (gan gynnwys unrhyw TAW) |
Mae’n bosib y bydd chwiliadau eraill yn angenrheidiol unwaith i’r holl wybodaeth am yr eiddo ddod i’r amlwg. Dim ond pan fo’r wybodaeth hon ar gael y gallwn ni roi pris llawn ar gyfer y chwiliadau. Fe wnawn ni yna ddarparu dyfynbris ysgrifenedig llawn ichi yn manylu’r holl gostau, yr alldaliadau a’r TAW.
CWMPAS Y GWAITH
Mae ein ffioedd yn cwmpasu’r holl waith sy’n angenrheidiol i gwblhau’r ail-forgeisio, gan gynnwys cofrestru gyda’r Gofrestrfa Dir. Noder bod y ffioedd a nodir yn cymryd yn ganiataol bod hwn yn drafodiad safonol ac na fydd unrhyw anawsterau nas ragwelwyd yn codi, gan gynnwys, ond heb gael eu cyfyngu i ddiffyg mewn teitl sydd angen ei gywiro cyn cwblhau neu baratoi dogfennau ychwanegol, yn ychwanegol i’r prif drafodiad.
Pan fo anhawster nas ragwelwyd yn codi neu ble mae’r modd y gofynnir inni fwrw ymlaen yn golygu gwaith ychwanegol byddwn yn eich hysbysu ac yn darparu costau diwygiedig ar ffurf ysgrifenedig.
AMCANGYFRIF AMSER AR GYFER GWAITH
Mae sawl ffactor yn pennu’r amser y bydd yn ei chymryd i gwblhau proses ailforgeisio. Mae’r broses gyfartalog yn cymryd rhwng 2 a 4 wythnos.
Fe wnawn ni, wrth gwrs, eich diweddaru fel bo angen.
CAMAU’R BROSES
Mae’r canlynol yn rhestr o brif gamau’r gwaith a wnawn ar eich rhan. Gall yr union gamau amrywio yn ôl yr amgylchiadau.
Manylion llawn ynghylch cymwysterau a phroffil personol ein cyfreithwyr trawsgludo:
Swyddfa Yr Wyddgrug:
Dion ap Geraint Williams | |
Nerys Wyn McKee | |
Nesta Myfanwy Davies | |
Chloe Roberts | |
Beti-Wyn Evans |
Swyddfa Rhuthun:
Delyth Geraint Williams | |
Ffion Medi Jones |
Neu defnyddiwch ein ffurflen gyswllt
Or use our contact form