Os ydych yn trafod tenantiaeth amaethyddol neu’n prynu neu werthu tir gwledig, yn y rhan fwyaf o achosion, bydd arnoch angen medrusrwydd arbenigwyr cyfreithiol fel Llewellyn-Jones. Y rheswm tros hyn yw bod y materion yma yn aml iawn yn rhai dyrys, ac fe allent beri problemau difrifol o beidio â’u trafod yn gywir.
Gyda’n swyddfeydd yn nhref wledig Rhuthun a’r Wyddgrug lled-wledig, mae ein cyngor amaethyddol pwrpasol a’n harbenigedd sylweddol o drafod eiddo cefn gwlad, ffermydd a thiroedd fferm, yn golygu ein bod yn gallu cynnig gwasanaeth o’r radd flaenaf i’n cleientiaid. Pa un ai a ydych yn berchen ar dir neu’n awyddus i brydlesu, mae ein gwybodaeth o gyfraith eiddo yn golygu ein bod mewn safle da i’ch cynorthwyo:
Cysylltwch â:
Swyddfa’r Wyddgrug – 01352 755305
Swyddfa Rhuthun – 01824 704495
Neu defnyddiwch ein ffurflen gyswllt
Rhaid sicrhau arbenigedd yr arbenigwyr cyfreithiol wrth drafod Tenantiaethau Busnes Fferm a phrydlesu tir ac eiddo gwledig. Gyda’n practis wedi ei hen sefydlu mewn ardal wledig a lled-wledig mae Llewellyn-Jones mewn safle da i gynnig cyngor ar Denantiaethau Amaethyddol a Busnesau Fferm, pa un ai a ydych yn berchen ar dir neu’n awyddus i brydlesu.
Rydym yn cynnig cymorth cyfreithiol yn y meysydd canlynol:
Cysylltwch â:
Swyddfa’r Wyddgrug – 01352 755305
Swyddfa Rhuthun – 01824 704495
Neu defnyddiwch ein ffurflen gyswllt
Or use our contact form
Mae cyfreithwyr Llewellyn-Jones yn brofiadol wrth ddelio gyda thenantiaethau busnes fferm a thenantiaethau a amddiffynnir gan Ddeddf Daliadau Amaethyddol 1986.
Wrth brynu tir amaethyddol rhydd-ddaliadol sy’n destun cytundeb tenantiaeth amaethyddol dylid ceisio cyngor ynglŷn â’r rhwymedigaethau ac unrhyw oblygiadau posib. Mae gan ein cyfreithwyr yma yn Llewellyn-Jones y profiad a’r wybodaeth i gynnig cyngor yn y meysydd canlynol:
I fod yn siŵr eich bod yn llwyr ddeall eich rhwymedigaethau ac unrhyw beryglon potensial,
Cysylltwch â:
Swyddfa’r Wyddgrug – 01352 755305
Swyddfa Rhuthun – 01824 704495
Neu defnyddiwch ein ffurflen gyswllt
Or use our contact form
Cytundeb cyfreithiol yw Fforddfraint sy’n rhoi hawl i gwmni cyfleustodau gynnal a chadw neu osod eu cyfarpar ar dir preifat yn gyfnewid am iawndal blynyddol. Gall cynnal a chadw a gosod amrywio o geblau a phibellau, i wifrau llinellau pŵer.
Am fod y maes cyfreithiol yma yn gymhleth, ag iddo sawl magl, mae’n hanfodol bod yn dra gofalus wrth lunio cytundebau a dogfennaeth bwysig arall.
Mae gan ein cyfreithwyr brofiad eang o’r sector amaethyddol ac eiddo gwledig ac felly’n gymwys i’ch cynorthwyo gyda’r maes hwn.
Os ydych yn berchennog tir sy’n ceisio cyngor cyfreithiol ynghylch cytundeb fforddfraint,
Cysylltwch â:
Swyddfa’r Wyddgrug – 01352 755305
Swyddfa Rhuthun – 01824 704495
Neu defnyddiwch ein ffurflen gyswllt
Or use our contact form
Cytundeb cyfreithiol yw Hawddfraint sy’n caniatáu i barti gael mynediad at eiddo arall, a/neu ddefnyddio eiddo arall heb ei feddiannu. Mae modd sefydlu hawddfreintiau rhwng landlordiaid, gyda dogfennau sy’n rhoi hawl cyfreithiol i gael mynediad at dir i ddiben penodol – megis mynediad at gyflenwad dŵr, neu ddraeniad, neu hawl mynediad ar gyfer cerbydau.
Os ydych yn ceisio cyngor cyfreithiol mewn perthynas â hawddfraint,
Cysylltwch â:
Swyddfa’r Wyddgrug – 01352 755305
Swyddfa Rhuthun – 01824 704495
Neu defnyddiwch ein ffurflen gyswllt
Or use our contact form
Mae ein practis wedi ei leoli mewn ardal wledig a lled-wledig, ac mae gennym flynyddoedd lawer o brofiad o gyfraith amaethyddol.
Mae ein cyfreithwyr ar gael i ddarparu gwasanaeth teilwredig, gan gynnig cymorth yn y meysydd canlynol:
Os ydych am brynu neu werthu tir amaethyddol,
Cysylltwch â:
Swyddfa’r Wyddgrug – 01352 755305
Swyddfa Rhuthun – 01824 704495
Neu defnyddiwch ein ffurflen gyswllt
Or use our contact form