Os ydych yn trafod tenantiaeth amaethyddol neu’n prynu neu werthu tir gwledig, yn y rhan fwyaf o achosion, bydd arnoch angen medrusrwydd arbenigwyr cyfreithiol fel Llewellyn-Jones. Y rheswm tros hyn yw bod y materion yma yn aml iawn yn rhai dyrys, ac fe allent beri problemau difrifol o beidio â’u trafod yn gywir…
Gyda’n swyddfeydd yn nhref wledig Rhuthun a’r Wyddgrug lled-wledig, mae ein cyngor amaethyddol pwrpasol a’n harbenigedd sylweddol o drafod eiddo cefn gwlad, ffermydd a thiroedd fferm, yn golygu ein bod yn gallu cynnig gwasanaeth o’r radd flaenaf i’n cleientiaid. Pa un ai a ydych yn berchen ar dir neu’n awyddus i brydlesu, mae ein gwybodaeth o gyfraith eiddo yn golygu ein bod mewn safle da i’ch cynorthwyo gyda materion megis:
Am fwy o wybodaeth, ewch i’n tudalen Amaethyddiaeth ac Ystadau
Mewn unrhyw anghydfod sy’n ymwneud â phlant, lles y plentyn yw’r flaenoriaeth uchaf i ni bob tro. Yn Llewellyn-Jones mae ein cyfreithwyr sy’n arbenigo mewn gwaith teulu/plant wedi eu hachredu gyda Chymdeithas y Cyfreithwyr ac yn gymwys i gynorthwyo ym mhob mater cyfreithiol sy’n ymwneud â phlant. Mae gennym brofiad o drafod achosion gofal a gychwynnir gan Wasanaethau Cymdeithasol (a elwir yn achosion cyfraith gyhoeddus).
Mae gan ein cyfieithwyr gwybodus brofiad eang o drafod anghydfod rhwng rhieni sydd yn methu â chytuno ar drefniadau byw eu plant (a elwir yn achosion cyfraith breifat). Gan ddefnyddio dulliau datrys anghydfod, mae gan weithwyr proffesiynol Llewellyn-Jones y wybodaeth ymyrraeth i fedru lleihau unrhyw wrthdaro.
Mewn sefyllfa anffodus ble nad oes modd cyfaddawdu, rydym ni yma i’ch cynrychioli chi, a lles pennaf eich plentyn yn y Llys. Mae gan ein cyfreithwyr gryn brofiad ym maes adfocatiaeth (llys). Rydym hefyd yn defnyddio gwasanaeth sawl bargyfreithiwr sy’n arbenigo yn y gwahanol feysydd anghydfod.
Am fwy o wybodaeth, ewch i’n tudalen Plant
Pan fo perthynas yn chwalu, yn aml gall y dyfodol ymddangos yn ansicr. Dyna pam ei bod hi’n hollbwysig eich bod yn ceisio cyngor cyfreithiol cyn gynted ag y bo modd i sicrhau eich bod yn derbyn y cyngor gorau ar gyfer eich dyfodol a dyfodol eich teulu.
Rydym yn aelod o Gynllun Uwch Cyfraith Teulu Cymdeithas y Cyfreithwyr.
Rydym yn aelod o Resolution. Mae aelodau Resolution yn ymroi i weithio mewn modd adeiladol ac anwrthdrawol.
Mae Colette Fletcher yn Gyfreithwraig sydd wedi ei hyfforddi i weithio yn y dull Cydweithredol. Pan fo perthynas yn chwalu, wrth ddefnyddio’r dull yma byddwch chi, eich gwrthwynebydd a’r ddau gyfreithiwr yn cwrdd i geisio trafod pethau wyneb yn wyneb, ac i geisio datrys y materion heb fynd i’r llys. Maent yn ymroi i gyflawni’r canlyniadau gorau drwy gytuno yn hytrach na mynd drwy achos llys. Fodd bynnag mae’r broses yn golygu na all y cyfreithwyr eich cynrychioli chi yn y llys os yw’r broses gydweithredol yn methu.
Mae gennym brofiad eang o adfocatiaeth ac fe allwn ofalu am eich achos yn y Llys.
Rydym wedi ein lleoli yn Yr Wyddgrug, sydd â chysylltiadau ffyrdd ardderchog i drefi a dinasoedd cyfagos, ac yn falch o fedru cynnig i’n cleientiaid yr un sgiliau ac arbenigedd ar gyfraddau cystadleuol iawn. Mae ein harbenigwyr cymeradwy, yn eu plith Bargyfreithwyr, arbenigwyr Ariannol/Pensiwn, cyfieithwyr, asiantau ymholi ac arbenigwyr iechyd, wedi eu dethol yn ofalus o bob cwr o Ogledd Lloegr a Gogledd Cymru, yn seiliedig ar ansawdd eu gwasanaeth a’u pris.
Gwelwyd sawl newid tros y blynyddoedd diwethaf i gyllid Cymorth Cyfreithiol. Rydym yn parhau i ymrwymo i gynnal contract gyda’r Asiantaeth Cymorth Cyfreithiol ar gyfer materion sy’n dal i fod yn gymwys ar gyfer cyllid cyhoeddus, gan gynnwys cyfraith gyhoeddus, plant a thrais domestig.
Rydym hefyd yn cynnig gwasanaeth Ffi Sefydlog ar gyfer cyngor teuluol.
Gyda phrofiad o drafod anghenion cymhleth ein cleientiaid, gallwn gynnig cymorth yn y meysydd cyfraith teulu canlynol:
Am fwy o wybodaeth, ewch i’n tudalen Teulu
Mae gan Dîm Eiddo Masnachol Llewellyn-Jones y profiad a’r wybodaeth i helpu busnesau a landlordiaid i gwrdd â’u nodau masnachol. Gan weithio gyda chleientiaid o bob maint, a thros ystod o wahanol eiddo, mae gennym yr arbenigedd i gwrdd â’ch nodau a’ch dyheadau.
Waeth pa ochr o’r berthynas ydach chi, gall anghydfod fod yn beth drwg i fusnes. Fel landlord gall beryglu eich buddsoddiad – fel tenant fe allai gael effaith uniongyrchol ar eich gwaith o ddydd i ddydd. Dyna pam rydym yn argymell eich bod yn ceisio cyngor cyfreithiol i ddatrys anghydfod, yn enwedig cyn i bethau boethi.
Os ydych chi’n landlord neu’n denant sydd angen cymorth cyfreithiol, mae gan y tîm yma yn Llewellyn-Jones brofiad yn y meysydd canlynol o faterion landlord a thenant:
Am fwy o wybodaeth, ewch i’n tudalen Landlord a Thenant
Mae’n hollbwysig cynllunio ar gyfer y dyfodol.
Pe baech yn mynd yn analluog ac yn methu rheoli eich materion mae’n bosib y byddai angen gwneud cais i’r Llys Gwarchod. Os penderfynwch eich bod am fynd i’r afael â’r risg yma, y cam nesaf yw cwblhau Atwrneiaeth Arhosol. Gall Llewellyn-Jones eich helpu i gynllunio ar gyfer y dyfodol neu gallwn eich cynorthwyo mewn perthynas â’r drefn a’r weithdrefn a nodir gan y Llys Gwarchod.
Am fwy o wybodaeth, ewch i’n tudalen Atwrneiaeth Arhosol a’r Llys Gwarchod
Yn Ionawr 2015 daeth Llewellyn-Jones yn aelod o Gynllun Ansawdd Trawsgludo Cymdeithas y Cyfreithwyr.
Mae’r achrediad yma yn nodi fod gan ein hadran trawsgludo preswyl weithdrefnau cadarn i amddiffyn cleientiaid, yn ogystal â chynnig gwasanaeth cwsmer sydd o lefel hynod uchel. Mae gweithdrefnau tebyg yn eu lle ym maes Trawsgludo Masnachol.
Mae ein hymagwedd tuag at Drawsgludo yn golygu y gall ein cyfreithwyr gynnig gwasanaeth personol i gleientiaid sy’n wasanaeth cyflym ac wedi ei deilwrio, ac rydym gerllaw i gynorthwyo.
Mae gennym sail cwsmer mawr ar gyfer trafodiadau trawsgludo ym mhob cwr o Gymru a Lloegr ac mae’r sail yma yn cynyddu.
Gall ein cyfreithwyr profiadol eich helpu gyda’r materion cyfreithiol canlynol:
Am fwy o wybodaeth, ewch i’n tudalen Trawsgludo Preswyl a Masnachol
Mae’n hanfodol cynllunio ar gyfer y dyfodol.
Yn aml gall peidio â chynllunio ar gyfer y dyfodol arwain at broblemau difrifol. Gall methu ag amlinellu’ch dymuniadau o ran beth sydd i ddigwydd wedi ichi farw achosi problemau diangen ar gyfer eich teulu ac fe all beri canlyniadau nas bwriadwyd.
Gyda chymorth Llewellyn-Jones, byddwch yn gallu cynllunio ymlaen llaw a sicrhau bod eich dymuniadau yn cael eu gweithredu. Rydym yma i’ch cynorthwyo gyda’r meysydd canlynol:
Am fwy o wybodaeth, ewch i’n tudalen Ewyllysiau, Profiant ac Ymddiriedolaethau