Graddiodd Nerys ym Mhrifysgol Cymru, Aberystwyth gan gymhwyso fel cyfreithiwr yn 1986. Bu’n gweithio fel cyfreithiwr yng Nghaerdydd a Chaergrawnt cyn dychwelyd i Sir y Fflint, gan arbenigo yn y lle cyntaf mewn anaf personol ac achosion o esgeulustod clinigol, a hynny ar gyfer hawlwyr a’r awdurdod iechyd.
Yn dilyn seibiant o’i gyrfa er mwyn magu teulu o dri mab, fe ddychwelodd at y gyfraith ac mae’n ymdrin â materion Cleientiaid Preifat gan fwyaf, gan gynnwys Trawsgludo Preswyl, Ewyllysiau, Profiant a Gweinyddu Ystadau.
Mae Nerys yn rhugl ei Chymraeg.
Mae gan Nerys ddiddordeb mawr mewn materion cymunedol ac fe fu’n Llywodraethwr ar Ysgol Glanrafon, Yr Wyddgrug. Bu hefyd yn aelod o Gymdeithas Rhieni Athrawon Ysgol Glanrafon ac Ysgol Maes Garmon, Yr Wyddgrug. Mae hefyd wedi ysgwyddo rôl Cadeirydd Cenedlaethol Mudiad Ysgolion Meithrin.
Mae Nerys yn mwynhau cerddoriaeth ac yn aelod o Gôr Rhuthun ers llawer dydd. Mae ganddi gi ac mae’n mwynhau mynd ag ef am dro yn yr ardal leol.
Cyswllt Cyflym
Cwblhewch y ffurflen isod ac fe gysylltwn â chi cyn gynted ag y bo modd.