Aelod o Uwch Banel Cyfraith Teulu Cymdeithas y Cyfreithwyr
Aelod o Resolution
Cyfreithiwr Teulu Cydweithredol Cymwysedig
Ganed Colette yn Wrecsam ac fe dderbyniodd ei haddysg yno. Aeth ymlaen i astudio’r gyfraith yng Ngholeg Prifysgol Cymru, Caerdydd, gan fynd ymlaen wedyn i gwblhau ei chwrs ymarfer cyfreithiol yng Ngholeg y Gyfraith, Caer. Ymunodd Colette â’r Cwmni fel Hyfforddai yn 1998 ac fe ail-ymunodd â’r Cwmni yn 2004 fel Partner i arwain Practis Cyfraith Teulu’r Cwmni. Mae Colette yn aelod o Uwch Banel Arbenigwyr Cyfraith Teulu Cymdeithas y Cyfreithwyr a hefyd yn aelod o Resolution.
Erbyn hyn mae Colette yn arbenigo ym mhob agwedd o Gyfraith Teulu gan gynnwys ysgariad, setliadau ariannol, anghydfodau plant: cytundebau ac anghydfodau gwahanu a chydfyw: a hefyd mewn cytundebau cyn-priodi.
Mae Colette wedi ei hyfforddi i fod yn Gyfreithwraig Gydweithredol a gall gynnig y dull cydweithredol o ddatrys anghydfod.
Sbardunwyd Colette i arbenigo mewn Cyfraith Teulu gan ei hawydd i helpu pobl i ymdopi yn ystod un o’r adegau anoddaf a mwyaf emosiynol yn eu bywydau, ac i’w cynorthwyo i ddatrys problemau, ac yn bwysig iawn, helpu pobl i edrych i’r dyfodol mewn modd positif, er y gall hyn ymddangos yn amhosib ar ôl gwahanu.
Mae Colette yn byw yn ardal Wrecsam gyda’i gŵr a’i phlant.
Cyswllt Cyflym
Cwblhewch y ffurflen isod ac fe gysylltwn â chi cyn gynted ag y bo modd.