Cwynion

Rydym ni am roi’r gwasanaeth gorau posib i chi. Fodd bynnag, os ydych ar unrhyw adeg yn anfodlon neu’n bryderus ynghylch y gwasanaeth yr ydym wedi ei ddarparu i chi, yna dylech roi gwybod inni ar unwaith fel y gallwn wneud ein gorau i ddatrys y broblem ar eich rhan. Yn y lle cyntaf, efallai y byddai’n ddefnyddiol cysylltu â’r cyfreithiwr sy’n gweithio ar eich achos i drafod unrhyw bryderon, ac fe wnawn ein gorau i ddatrys unrhyw faterion ar yr adeg hon. Os ydych yn teimlo yr hoffech chi wneud cwyn ffurfiol, yna cysylltwch â’n Rheolwr Practis. I ddarllen ein gweithdrefn gwyno, dilynwch y ddolen isod:

POLISI A GWEITHDREFN GWYNO vMai2024

Os hoffech ragor o wybodaeth ynglŷn â’r Ombwdsmon Cyfreithiol, cysylltwch â nhw:

Ewch i www.legalombudsman.org.uk

Ffoniwch 0300 555 0333 rhwng 9am a 5pm.

E-bost enquiries@legalombudsman.org.uk

Legal Ombudsman

PO Box 6167

Slough

SL1 0EH

Peidiwch â danfon dogfennau gwreiddiol at yr Ombwdsmon Cyfreithiol. Byddant yn sganio unrhyw ddogfennau yr ydych yn eu danfon atynt i wneud copïau cyfrifiadurol ac yna’n dinistrio’r gwreiddiol.

Os nad ydych am gyflwyno eich cwyn yn uniongyrchol atom ni, fel y nodir uchod, mae’n bosib y bydd modd ichi gyflwyno’ch cwyn drwy blatfform Datrys Anghydfodau Ar-lein y Comisiwn Ewropeaidd (http://ec.europa.eu/consumers/odr/).

  • Achrediadau

  • Conveyancing Quality
  • Family Law Advanced
  • Resolution
  • Cyfreithiwr i'r Teulu cydweithredol